Cwmni cynhyrchu annibynnol bach yw Slam sydd wedi ennill enw da am gynhyrchu rhaglenni;
- Chwaraeon a Digwyddiadau cymhleth ac uchelgeisiol
- Dogfennau treiddgar a sympathetig
- Adloniant Ysgafn cyfoes
- Comisiynau pwrpasol ar gyfer Corfforaethau.
Sefydlwyd Slam gan Geraint Lewis ac Aled Llŷr yn 2008 dan yr enw Indus Sport ac ers 2010 mae wedi datblygu i fod yn gwmni sy’n gallu cynnig gwasanaeth one stop shop.
Gellir gweld rhaglenni Slam ar BBC Cymru/Wales, ITV Wales, ITV Network, S4C, Sky, BT Sport.
Ymhlith partneriaid cynhyrchu cyfredol Slam mae IMG Media, Dreamteam TV, ITV Cymru a Mr Producer.
Amcan Slam yw arloesi gyda’r dechnoleg ddiweddaraf a gwthio’r ffiniau er mwyn creu cynnwys cofiadwy o’r safon uchaf.