
NODIR: Mae Cyfrinachau’r Llyfrgell yn cychwyn dydd Mawrth, Medi 17eg, 9pm ar S4C. Hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer
CERYS MATTHEWS A SÊR ERAILL CYMRU YN CYCHWYN AR DAITH EMOSIYNOL A PHERSONOL WRTH IDDYNT DDATGELU CYFRINACHAU O FEWN MURIAU LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU
Mae cyfres pedair rhan newydd sbon ar S4C yn arwain rhai o wynebau adnabyddus Cymru ar daith bersonol ac emosiynol iawn drwy goridorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Mae Cyfrinachau’r Llyfrgell yn dilyn rhai o sêr Cymru – y canwr/cyfansoddwr a’r darlledwr Cerys Matthews, yr arsylwr natur Iolo Williams, y darlledwr/digrifwr Tudur Owen, a’r newyddiadurwr Maxine Hughes – wrth iddynt ddarganfod straeon twymgalon ac, ar brydiau, torcalonnus o’r gorffennol.
Yn y gyfres hon, rydym yn dilyn yr unigolion i geisio datrys dirgelwch eitem yn eu meddiant neu rywbeth sydd ar eu meddwl, gyda phob un o’r sêr yn cychwyn ar daith lle maent yn datgelu cyfres o straeon a syrpreisys sy’n profi i fod yn oleuedig ac yn cyfoethogi bywyd.
Yn ystod pob rhaglen awr o hyd sydd yn cael ei gyflwyno gan y cyflwynydd nodedig Dot Davies, mae curaduron brwdfrydig a gwybodus yn defnyddio eu harbenigedd i ddod o hyd i ffotograffau, llyfrau, llawysgrifau, fideos, recordiadau sain, mapiau, papurau newydd a mwy, gan helpu’r sêr i ddarganfod straeon anhysbys a thrysorau nas gwelwyd o’r blaen.
Llun o fachgen 16 oed oedd ysbrydoliaeth Cerys Matthews, roedd hi wedi ei ddarganfod o fewn albwm lluniau teulu ei diweddar dad. Bu farw’r bachgen tra’n gweithio ar y môr, a cyflwynwyd Cerys i’r logiau a gedwir gan forwr o oed tebyg a hwyliodd yn ôl yn y ddeunawfed ganrif a mwynhau bywyd hynod anturus. Disgrifiodd Cerys y profiad fel “anrhydedd.”
“Roedd yn anrhydedd darllen geiriau rhywun a aeth mor bell, cyflawni cymaint a dychmygu pa fath o fyd oedd e” eglura.
Mae Cerys hefyd yn gwrando ar dâp demo o sengl gyntaf Catatonia yn y DU o gasgliad a roddwyd i’r Llyfrgell gan reolwr cyntaf y band, Rhys Mwyn, ac mae hefyd yn gweld eiddo olaf Dylan Thomas gafodd eu casglu o Westy’r Chelsea yn Manhattan.
Wedi’i chynhyrchu gan Slam Media, mae’r tymor cyntaf yn dechrau ar Fedi 17eg am 9pm, ac mae’r ail gyfres eisoes mewn cyn-gynhyrchiad. Bydd y fformat yn cael ei ddosbarthu’n rhyngwladol gan ITV Studios.
Dywedodd y Cynhyrchydd Gweithredol, Geraint Rhys Lewis, “Rydym wrth ein bodd bod S4C wedi dangos cymaint o ffydd a chefnogaeth yn “Cyfrinachau’r Llyfrgell” o’r cychwyn cyntaf, a bod ITV Studios wedi cydnabod bod gan ein fformat botensial gwirioneddol ar gyfer marchnad ehangach. Hoffem ddiolch hefyd i’r tîm yn y Llyfrgell Genedlaethol a gefnogodd ac a brynodd i fewn i’n dull poblogaidd o adrodd straeon o’r diwrnod cyntaf. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i bawb sy’n rhan o’r prosiect.”
Dywedodd Llinos Wynne, Pennaeth rhaglenni dogfen a ffeithiol arbenigol S4C, “Mae Cyfrinachau’r Llyfrgell yn fformat cyffrous sy’n cynnig cipolwg i’r gwyliwr ar hanes a thrysorau y genedl trwy lygaid rhai o enwogion mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n daith o ddarganfod hanesyddol a phersonol, gyda digon o chwilfrydedd, syrpreisys ac emosiwn. Gellir gwreiddio’r syniad mewn unrhyw wlad a diwylliant a dyna’r allwedd i fformat rhyngwladol llwyddiannus.”
Ychwanegodd Ella Umansky, VP Caffael Fformat ar gyfer ITV Studios, “Mae Cyfrinachau’r Llyfrgell yn berl go iawn, wedi’i gwneud yn hyfryd ac yn feddylgar. Mae’n dod â phersbectif unigryw a phersonol ar hanes gwlad ac arteffactau anhygoel, ac rydym yn gyffrous i fod yn gweithio gyda Slam ac S4C i lansio’r fformat yn fyd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu straeon cudd gwledydd eraill a chyfrinachau gorau enwogion ledled y byd.”